Visiting Mum Pact Relaunches Project Supporting Children In Wales To Visit Their Mothers In Prison

10/08/2021

News

Visiting Mum: Pact relaunches project supporting children in Wales to visit their mothers in prison

You can also read this news story in Welsh.

Pact is proud to be relaunching its Visiting Mum project in two women’s prisons this month, paving the way for Welsh mothers to maintain positive relationships with their children throughout their prison sentence. 

The flagship Visiting Mum project, jointly funded by HM Prison and Probation Service (HMPPS) and the Welsh Government, will see Pact working in HMP Eastwood Park and HMP Styal to identify women who are at risk of losing contact with their children in Wales and offer specialist support to preserve and strengthen these vital family ties*. There will also be an opportunity for the women to engage in parenting and relationship programmes and to receive specialist one-to-one support from our team, which may include support to engage with Social Workers and other services if required. 

We are also delighted to be partnering with Change Grow Live who will be recruiting and  managing specially trained volunteers to provide emotional support to the women’s children and families in the community and prepare them to visit their loved ones in prison. The volunteers will also offer  practical support including providing transport and accompanying children and their families to prison visits, which can be daunting. This project will make a huge difference to the many Welsh children whose mothers are imprisoned in England and who struggle to maintain their right to contact because of practical considerations such as the cost of travel or lack of suitable adult supervision.   

This Visiting Mum work is based on a successful three-year pilot, funded by Big Lottery Wales, which Pact created and ran in partnership with HMP Eastwood Park prison between 2014 and 2017. Despite a positive evaluation from Cardiff University the initiative came to an end. However, Pact has continued to promote the model and, four years later, we are delighted to be reviving the programme and extending it to HMP Styal. 

Andy Keen-Downs, Chief Executive of Pact, said, 

"We know from the evaluation of the Big Lottery funded pilot of Visiting Mum that this work reduces the risk of self-harm among mothers who have often experienced trauma and who are separated from their children. We have seen a 13% increase in self-harm among women in prison, which means this kind of work is more vital than ever. We also know that children whose mothers suddenly disappear from their lives often experience a terrible sense of loss - a form of bereavement – and often experience declining mental and physical health.   Visiting Mum makes a real difference to the lives of both mothers and children, and we are thrilled and grateful beyond words to the Welsh Government, HMPPS and our partners at Change Grow Live, to revive this proven approach in HMP Eastwood Park and extend it to HMP Styal."

John Leach, Head of ETE and Childrens Rights Operations for Change Grow Live, said, 

"We are happy to broaden our working relationship with Pact with another project that allows us to focus on supporting young people and their mums in Wales."

Jane Hutt, Minister for Social Justice in the Welsh Government, said, 

"The Visiting Mum initiative is vitally important as it seeks to strengthen family links by sustaining and improving positive relationships between Welsh mothers in prison and their children. It is a key element of our Female Offending Blueprint, aiming to improve the lives of women already within or at risk of entering the criminal justice system."

Chris Jennings, Executive Director of Her Majesty’s Prison and Probation Service in Wales, said,

"HMPPS is delighted to be jointly funding the Visiting Mum service, which aims to support Welsh women in prison to maintain contact with their families (where it is in the child’s best interest to do so) through addressing barriers to visitation. Prison sentences can create significant disruptions to family life which can have far-reaching and long-lasting effects on not just the women themselves but also on their children. Building services that improve family ties reflects a key delivery priority under the joint Welsh Government and Ministry of Justice Female Offending Blueprint (2019) and within the Ministry of Justice Female Offender Strategy (2018). The Visiting Mum service will help contribute to our shared ambitions to support positive wellbeing amongst women in the criminal justice system, improve rehabilitative outcomes for Welsh women, and help prevent children becoming offenders in the future."

* There are no prisons for women in Wales and consequently Welsh women are held in custody in prisons in England – at great distance from their children and those caring for them.

 

Ymweld â Mam: Pact yn ail-lansio prosiect sy’n cefnogi plant yng Nghymru i ymweld â’u mamau sydd yn y carchar dros y ffin

Mae Pact yn falch o fod yn ail-lansio eu prosiect Ymweld â Mam mewn dau garchar i fenywod y mis yma, gan baratoi’r ffordd i famau o Gymru gynnal perthynas gadarnhaol â’u plant ar hyd eu dedfryd o garchar.

Fel rhan o brosiect blaengar Ymweld â Mam, sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Wasanaeth Carcharau a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) a Llywodraeth Cymru, bydd Pact yn gweithio yn HMP Eastwood Park ac HMP Styal i ganfod benywod sydd mewn perygl o golli cysylltiad â’u plant yng Nghymru, a chynnig cefnogaeth arbenigol i ddiogelu a chryfhau’r clymau teulu hollbwysig hyn[1]. Bydd cyfle hefyd i’r benywod fod yn rhan o raglenni rhianta a chydberthynas, a derbyn cefnogaeth arbenigol un-i-un gan ein tîm, a all gynnwys cefnogaeth i ymgysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol a gwasanaethau eraill os bydd angen.

Rydym ni hefyd wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Change Grow Live, a fydd yn recriwtio ac yn rheoli gwirfoddolwyr a hyfforddwyd yn arbennig i ddarparu cefnogaeth emosiynol i blant a theuluoedd y benywod yn y gymuned, a’u paratoi i ymweld â’u hanwyliaid yn y carchar. Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig cefnogaeth ymarferol, gan gynnwys darparu trafnidiaeth a hebrwng plant a’u teuluoedd ar ymweliadau â’r carchar, a all godi ofn arnyn nhw. Bydd y prosiect yma’n gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r plant niferus o Gymru sydd â’u mamau yn y carchar yn Lloegr, ac sy’n cael trafferth cynnal eu hawl i gyswllt oherwydd ystyriaethau ymarferol fel cost teithio neu ddiffyg goruchwyliaeth gan oedolyn addas.

Mae’r gwaith Ymweld â Mam yma wedi’i seilio ar beilot llwyddiannus tair blynedd, a ariannwyd gan y Loteri Fawr Cymru, a grëwyd gan Pact, ac a gynhaliwyd mewn partneriaeth â charchar HMP Eastwood Park rhwng 2014 a 2017. Er gwaethaf gwerthusiad cadarnhaol gan Brifysgol Caerdydd daeth y fenter i ben. Fodd bynnag, mae Pact wedi parhau i hybu’r model, a phedair blynedd yn ddiweddarach, rydyn ni wrth ein bodd yn cael adfywio’r rhaglen a’i hestyn i HMP Styal.

Dywedodd Andy Keen-Downs, Prif Weithredwr Pact,

"Ar sail y gwerthusiad o beilot Ymweld â Mam a ariannwyd gan y Loteri Fawr, rydyn ni’n gwybod bod y gwaith yma’n lleihau’r risg o hunan-niweidio ymhlith mamau sy’n aml wedi profi trawma ac sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu plant. Rydyn ni wedi gweld cynnydd o 13% mewn hunan-niweidio ymhlith benywod yn y carchar, sy’n golygu bod y math yma o waith yn fwy hanfodol nag erioed. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod plant y mae eu mamau’n sydyn yn diflannu o’u bywydau yn aml yn profi ymdeimlad ofnadwy o golled – math ar brofedigaeth – a bod eu hiechyd corfforol a meddyliol yn aml yn dirywio. Mae Ymweld â Mam yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau mamau a phlant, ac rydyn ni wrth ein bodd ac yn ddiolchgar dros ben i Lywodraeth Cymru, HMPPS a’n partneriaid yn Change Grow Live, ein bod ni’n cael adfywio’r dull gweithredu hwn a brofwyd yn HMP Eastwood Park a’i estyn i HMP Styal."

Dywedodd John Leach, Pennaeth ETE a Gweithrediadau Hawliau Plant i Change Grow Live,

"Rydyn ni’n falch o ehangu ein perthynas waith gyda Pact ar ffurf prosiect arall sy’n ein galluogi i ganolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc a’u mamau yng Nghymru."

Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru,

"Mae menter Ymweld â Mam yn hanfodol bwysig gan ei bod yn ceisio cryfhau cysylltiadau teulu trwy gynnal a gwella cydberthynas gadarnhaol rhwng mamau o Gymru sydd yn y carchar a’u plant. Mae’n elfen allweddol o’n Glasbrint Troseddu gan Fenywod, ac yn ceisio gwella bywydau benywod sydd eisoes yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol neu mewn perygl o fynd iddi."

Dywedodd Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Carcharau a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru,

"Mae HMPPS yn falch iawn o fod yn cyd-ariannu’r gwasanaeth Ymweld â Mam, sy’n ceisio cefnogi benywod o Gymru sydd yn y carchar i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd (os yw hynny er lles pennaf y plentyn) trwy roi sylw i’r elfennau sy’n rhwystro ymweliadau. Gall dedfrydau o garchar amharu’n sylweddol ar fywyd teuluoedd, gydag effeithiau pellgyrhaeddol a pharhaol, nid ar y benywod eu hunain yn unig, ond hefyd ar eu plant. Mae creu gwasanaethau sy’n gwella cysylltiadau teuluol yn adlewyrchu blaenoriaeth gyflwyno allweddol o dan y Glasbrint Troseddu gan Fenywod a rennir gan Lywodraeth Cymru a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (2019) ac yn rhan o Strategaeth Troseddwyr Benyw y Weinyddiaeth Gyfiawnder (2018). Bydd gwasanaeth Ymweld â Mam yn helpu i gyfrannu at ein huchelgais a rennir, sef cefnogi llesiant cadarnhaol ymhlith benywod yn y system cyfiawnder troseddol, gwella’r canlyniadau ailsefydlu i fenywod o Gymru, a helpu i atal plant rhag datblygu’n droseddwyr yn y dyfodol."

[1] Nid oes carcharau i fenywod yng Nghymru ac o ganlyniad cedwir benywod o Gymru yn y ddalfa mewn carcharau yn Lloegr – ymhell iawn o’u plant a’r rhai sy’n gofalu amdanynt